Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 6 Chwefror 2018
Amser:
08.35 -
09.03
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Julie James AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Ychwanegodd y Llywodraeth ddau ddatganiad i agenda dydd Mawrth ar gyfer y Cyfarfod Llawn: Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Polisi Masnach - Materion Cymru (45 munud) a Datganiad gan Arweinydd y Tŷ: Canmlwyddiant y Bleidlais i Fenywod (45 munud).
Nododd Rhun ap Iorwerth fod y Llywodraeth wedi trefnu pum datganiad yr wythnos hon ond dim un ddadl, yn cynnwys Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol 2016/17, a fu’n ddadl bob tro o’r blaen.
· Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.
Dydd Mercher
Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes y byddai’r fformat ar gyfer Cynnig Comisiwn y Cynulliad: Ymgynghoriad ar Ddiwygio’r Cynulliad fel a ganlyn:
· Y Llywydd yn agor a chloi (cyfanswm o 8 munud)
· Siaradwyr eraill (5 munud)
· Dim gwelliannau nac ymateb gan y Llywodraeth
· Byddai’r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Gofynnodd Rhun ap Iorwerth am gefndir y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau sy’n Addas i’r Dyfodol - Papur Gwyn ar 27 Chwefror, ac a allai fod yn ddadl yn lle datganiad. Dywedodd Arweinydd y Tŷ fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn am ddatganiad.
Dywedodd Julie James wrth y Rheolwyr Busnes mai hi fyddai’n ateb y cwestiynau i’r Prif Weinidog ar 27 Chwefror, gan y byddai’r Prif Weinidog i ffwrdd ar fusnes yn ymwneud â dydd Gŵyl Dewi.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 28 Chwefror 2018 -
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Ni chytunodd y Rheolwyr Busnes ar unrhyw feysydd diwygio ar gyfer cyflwyno. Cytunodd y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd i addasu eu blaenoriaethau wrth gadeirio fel:
· na fyddent yn galw cynifer o gwestiynau atodol ac, o’r herwydd, byddant yn galw mwy o’r cwestiynau a gyflwynwyd;
· bydd llai o flaenoriaeth o ran galw Arweinwyr/Llefarydd y Pleidiau ar gwestiynau eraill; a
· bydd disgwyl i Arweinwyr/Llefarwyr y Pleidiau a Gweinidogion fod yn fwy cryno.
Roedd gan y Rheolwyr Busnes safbwyntiau gwahanol ynghylch pa flaenoriaethu y dylid i roi i gynnal adolygiad ehangach o’r Rheolau Sefydlog, felly gofynnodd y Llywydd i’r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno papur cwmpasu ar sut y byddai adolygiad llawn yn edrych a’r adnoddau fyddai ynghlwm wrth hynny.